Sir Bryn Terfel to lead BBC Cymru Wales’ St David’s Day celebration

Celebrate a St David’s Day like no other with the world-renowned singer and the BBC National Orchestra of Wales on Monday 1 March at 7pm on BBC Two Wales along with a host of other programmes on the BBC

"We’re thrilled that Sir Bryn Terfel is joining the BBC National Orchestra of Wales for what will be a rousing concert of Welsh music and song, and who better than Huw Stephens to share the Story of Welsh Art with audiences right across the UK. It promises to be a day – and a night - to remember and a timely reminder of the extraordinary talent Wales produces” — Rhodri Talfan Davies

OFFICIAL PRESS RELEASE


NEWS PROVIDED BY
BBC TWO

The Grammy Award-winning opera singer, Sir Bryn Terfel, has performed all over the world and this St David’s Day the Welsh bass-baritone will be celebrating in the Welsh capital.

He’ll be joining the BBC National Orchestra of Wales at Hoddinott Hall in Cardiff, for a special concert packed-full of Welsh classics and favourites that will be broadcast on BBC Two Wales, BBC Radio Wales and BBC Radio Cymru.

Looking ahead to the concert Sir Bryn Terfel said: “Singing is in my people, as sight is in the eye” is a quote from “How Green Was My Valley”. It costs us nothing to sing along and even though there are only three million of us, we are certainly not afraid to use our voices. This concert has many of our cherished songs and folk tunes and to perform live again with our incredible BBC National Orchestra of Wales fills my heart with gladness”.

The special concert is just one part of BBC Wales’ extensive range of output on St David’s Day. A brand new series The Story of Welsh Art with Huw Stephens will take viewers on a breath-taking visual tour of the nation, from stunning bronze-age artefacts to award-winning cutting edge contemporary pieces.

Comedian and presenter Tudur Owen takes a look at how the people of Wales have celebrated the day over the years - from delicious dishes to questionable dancing - as he explores the BBC archives for a St David’s Day special of Tudur’s TV Flashback.

St David’s Day at the BBC celebrates with classic performances drawn from the BBC's music archives and includes performances from Manic Street Preachers, Catatonia, Feeder, Dame Shirley Bassey and Sir Tom Jones.

In addition to broadcasting the St David’s Day concert with Bryn Terfel, BBC Radio Wales and BBC Radio Cymru will be asking listeners what little things they’ll be doing that bring them joy this St David’s Day, as well as celebrating the day with a host of special guests and content.

Rhodri Talfan Davies, Director of BBC Cymru Wales says: “Despite the challenging circumstances for everybody, St David’s Day is always worth celebrating and this year we’re pulling out all the stops.

“We’re thrilled that Sir Bryn Terfel is joining the BBC National Orchestra of Wales for what will be a rousing concert of Welsh music and song, and who better than Huw Stephens to share the Story of Welsh Art with audiences right across the UK. It promises to be a day – and a night - to remember and a timely reminder of the extraordinary talent Wales produces.”

BBC Four will be kicking off the celebrations early with a Friday night of Welsh music icons on Friday 26 February. Programmes include Katherine Jenkins at 40, St David’s Day at the BBC, Tom Jones’s 1950s: The Decade That Made Me, Electric Proms featuring Shirley Bassey and Radio 2 in Concert featuring The Stereophonics.

Welsh language version

Syr Bryn Terfel i arwain dathliadau Dydd Gŵyl Dewi BBC Cymru

Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi gyda’r canwr byd-enwog a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ddydd Llun 1 Mawrth am 7pm ar BBC Two Wales ynghyd â llu o raglenni eraill ar y BBC.

Mae’r canwr opera ac enillydd Gwobr Grammy, Syr Bryn Terfel, wedi perfformio ledled y byd a bydd y bas-bariton Cymreig yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Hoddinott yng Nghaerdydd ar gyfer cyngerdd arbennig yn llawn o glasuron a ffefrynnau a fydd yn cael ei ddarlledu ar BBC Two Wales, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru.

Gan edrych ymlaen at y cyngerdd, dywedodd Syr Bryn Terfel: “Dyfyniad o “How Green Was My Valley” yw “Singing is in my people, as sight is in the eye”. Nid yw'n costio dim i ni ganu ac er nad oes ond tair miliwn ohonom, yn sicr nid ydym yn ofni defnyddio ein lleisiau. Mae’r cyngerdd yn cynnwys nifer o'n hoff ganeuon a chaneuon gwerin ac mae perfformio'n fyw eto gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn llenwi fy nghalon â llawenydd.”

Dim ond un rhan o gynnwys helaeth BBC Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi yw'r cyngerdd arbennig. Bydd cyfres newydd sbon The Story of Welsh Art gyda Huw Stephens yn tywys gwylwyr ar daith weledol syfrdanol o amgylch y genedl, o arteffactau trawiadol o'r oes efydd i ddarnau cyfoes arloesol sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r digrifwr a’r cyflwynydd Tudur Owen yn bwrw golwg ar sut mae pobl Cymru wedi dathlu’r diwrnod dros y blynyddoedd - o fwydydd blasus i ddawnsio amheus - wrth iddo archwilio archifau’r BBC ar gyfer rhaglen arbennig Dydd Gŵyl Dewi o Tudur’s TV Flashback.

Mae St David’s Day at the BBC yn dathlu gyda pherfformiadau clasurol wedi’u casglu o archifau cerdd y BBC ac yn cynnwys perfformiadau gan Manic Street Preachers, Catatonia, Feeder, y Fonesig Shirley Bassey a Syr Tom Jones.

Yn ogystal â darlledu’r cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi gyda Bryn Terfel, bydd BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yn gofyn i wrandawyr pa bethau bychain y byddan nhw'n eu gwneud sy'n dod â llawenydd iddyn nhw ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn ogystal â dathlu'r diwrnod gyda llu o westeion a chynnwys arbennig.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales:

“Er gwaetha’r amgylchiadau heriol i bawb, mae Dydd Gŵyl Dewi wastad werth ei ddathlu ac eleni ry’n ni’n mynd amdani.

“Ry’n ni wrth ein bodd bod Syr Bryn Terfel yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar gyfer yr hyn a fydd yn gyngerdd gyffrous o gerddoriaeth a chân Gymreig, a phwy well na Huw Stephens i rannu stori celf Cymru â chynulleidfaoedd ledled y DU. Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod - ac yn noson - i'w gofio ac yn atgof amserol o'r dalent ryfeddol y mae Cymru yn ei chynhyrchu. ”

Bydd BBC Four yn cychwyn y dathliadau yn gynnar gyda noson o eiconau cerddoriaeth Cymreig, nos Wener 26 Chwefror. Ymhlith y rhaglenni bydd Katherine Jenkins at 40, St David’s Day at the BBC, Tom Jones’s 1950s: The Decade That Made Me, Electric Proms gyda Shirley Bassey a Radio 2 in Concert gyda Stereophonics.

Source BBC TWO

February 25, 2021 4:05am ET by BBC TWO  

,

  Shortlink to this content: https://bit.ly/2ZOkQb1

SHARE THIS

Latest Press Releases