BBC Wales commissions new series of the award-winning podcast on mental health, Dewr

The new series of the popular Welsh language podcast Dewr - winner of the Gold Award in the Best Podcast in the Welsh language category of the British Podcast Awards over the weekend - is coming to BBC Sounds

PHOTO: Tara Bethan, Llinos Manon

OFFICIAL PRESS RELEASE


NEWS PROVIDED BY
BBC Sounds

Mental health is the main theme of the podcast and features some of Wales’s most famous voices as they discuss some of their most challenging and happy life experiences.

The podcast, presented by multi-talented singer and actress Tara Bethan, came to life at the beginning of the pandemic. Tara and her friend Llinos Manon Williams decided to collaborate and create an honest podcast about life’s challenges and mental health, in the Welsh language. The first series heard from contributors including Hywel Gwynfryn, Catrin Finch and Manon Steffan Ross.

Tara says: “I’m so, so happy that BBC Sounds have offered us a second series. When Llinos and I started working on the first series of Dewr, with support from the Arts Council of Wales, we had no idea what the reaction would be like.

"As Welsh people we’re not a nation that naturally wants to talk about our personal lives, let alone our mental health - so the both of us were shocked by the positive support we received. So many listeners have been in touch to thank us and to share their own experiences after relating to the experiences shared by our wonderful guests. We had over 20k hits and now the prestige of winning the Best Podcast in the Welsh language at the British Podcast Awards. It’s nuts!

“Mental health is something I’ve personally struggled with over the years, but it feels like an honour, a relief and a complete pleasure to turn my lifelong challenge into positive conversations that has not only helped many but has also been an education for Llinos and myself. Our ambition for the second series, as we did in the first, is to bring our listeners more amazing, honest and fun chats and I’m sure we’ll have a lot of tears and laughter along the way this year.”

Gruffudd Pritchard, Content Editor for Cymru Fyw said, “Dewr made a huge impact on many of us during 2020 and I’m thrilled that Tara and her guests will make their new home on BBC Sounds. I hope we’ll help this important podcast grow and develop and that a new audience will find Dewr.

The new series of Dewr will be available on BBC Sounds in September.

BBC Cymru yn comisynu cyfres newydd o'r podlediad iechyd meddwl dewr - enillydd yn y British Podcast Awards

Mae cyfres newydd o bodlediad Dewr - a enillodd y Wobr Aur yng nghategori Y Podlediad Gorau Cymraeg yn y British Podcast Awards dros y penwythnos – yn dod i BBC Sounds.

Iechyd meddwl yw prif thema’r podlediad sydd hefyd yn trafod cyfnodau heriol a hapus bywyd gyda rhai o wynebau cyfarwydd Cymru. Y gantores a’r gyflwynwraig Tara Bethan sy’n cyflwyno a daeth y podlediad gwreiddiol i fodolaeth ar ddechrau cyfnod y pandemig. Bu i Tara a’i ffrind Llinos Manon Williams benderfynu cydweithio a chreu cyfres gonest am heriau bywyd a iechyd meddwl yn y Gymraeg. Bu i’r gyfres gyntaf glywed gan gyfranwyr yn cynnwys Hywel Gwynfryn, Catrin Finch a Manon Steffan Ros.

Meddai Tara Bethan: “Dwi mor, mor hapus bod BBC Sounds wedi cynnig ail gyfres i ni. Pan nath fy ffrind i, Llinos Manon a finna ddechrau cyfres un o Dewr gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru doedd dim syniad ganddo ni be fuasai’r ymateb. Fel Cymru ‘da ni ddim yn genedl sydd yn naturiol yn siarad yn uchel am hynt a helyntion ein bywydau personol, na chwaith am ein hiechyd meddwl - felly roedd y ddwy ohonom wedi’n syfrdanu gyda’r ymateb mor bositif a chefnogol gaethon ni. Cymaint o wrandawyr yn cysylltu i ddiolch i ni ac i rannu eu profiadau gyda ni wedi iddynt uniaethu gyda’r amrywiaeth o storis gan ein gwesteion anhygoel. Dros 20k o ‘hits’ a rwan y fraint o ennill Podcast Cymraeg Gorau’r flwyddyn gan y British Podcast Awards. Ma’n nuts!

“Mae iechyd meddwl yn rhywbeth dwi wedi stryglo hefo fo dros y blynyddoedd ond ma’n teimlo fel braint, rhyddhad a phleser llwyr gallu troi fy ‘sialens’ hir oes i mewn i sgyrsiau positif sydd yn amlwg yn helpu ein gwrandawyr ond hefyd yn addysg a siwrne anhygoel i Llinos a fi. Fel yng nghyfres un, ein gobaith ydi i ddod â sgyrsiau hwyliog, amrwd a gonest i’n gwrandawyr a dwi’n siŵr fydd yna lot mwy o chwerthin a chrio eto eleni.”

Meddai Gruffudd Pritchard, Golygydd Cynnwys Cymru Fyw: “Fe wnaeth Dewr argraff fawr ar nifer ohonom yn 2020. Felly dwi wrth fy modd fod Tara a’i gwesteion bellach yn cael eu cartref newydd ar BBC Sounds. Rwy’n gobeithio byddwn yn gallu helpu’r podlediad pwysig yma i dyfu a datblygu ac y bydd y cynulleidfaoedd newydd yn darganfod Dewr.”

Bydd y gyfres newydd o Dewr ar gael fis Medi ar BBC Sounds.

Source BBC Sounds

July 16, 2021 4:00am ET by Pressparty  

,

  Shortlink to this content: https://bit.ly/3rozmU1

SHARE THIS

Latest Press Releases