Mica Paris to pay tribute to Ella Fitzgerald at BBC Proms In The Park

Mica Paris will perform renditions of Ella Fitzgerald classics at BBC Proms in the Park on Saturday, September 9 at Singleton Park in Swansea. The BBC National Orchestra and Chorus of Wales will also be performing an array of well-known film and TV favourites alongside traditional Welsh songs. The news comes as the full line-up for the evening is announced, and tickets go on sale.

English language version

Mica Paris said: “I can't wait to be playing at BBC Proms in the Park in September - it’s going to be a fab day and I would love to see you all there!”

Welsh soprano and West-end star and recent Olivier Award winner Rebecca Trehearn, will also take to the stage, as well as BBC Young Musician 2016 finalist, saxophonist Jess Gillam.

Rhodri Talfan Davies, Director of BBC Wales says: “I’m really looking forward to welcoming Mica Paris and the other amazing musical talent to Swansea for this year’s Proms in the Park. The variety of this year’s line-up will mean yet another wonderful evening of music and song and I know the warmth and enthusiasm of the audience at Swansea will make it a truly memorable event.”

Robert Francis-Davies, Swansea Council Cabinet Member for Culture, Tourism and Major Projects, says: “We’re delighted to be hosting Proms in the Park again because it’s always a brilliant event with a fantastic atmosphere. A special appearance by Mica Paris will ensure we’ll have a great crowd coming from all over Wales to join in.”

Music-lovers are invited to come with picnics and flags to celebrate at this open-air concert. Proms in the Park is part of the annual spectacular culmination of two months of music-making at the BBC Proms, as the world-famous Last Night celebrations spill out from London's Royal Albert Hall and thousands of people come together at venues across the UK to be part of the magic of the Last Night.

Tickets are now on sale for the event supported by Swansea Council which will take place on Saturday, 9 September. Advance ticket prices are £12.50 for adults during the month of July, increasing to £16 on 1 August until the day before the event, and £18 on the day. Accompanied children 12 and under are free.

To keep up to date with the event developments and purchase tickets, visit bbc.co.uk/promsinthepark

Notes to Editors

BBC Proms
As the world’s biggest classical music festival, the BBC Proms offers eight weeks of world-class music-making from a vast array of leading orchestras, conductors and soloists from the UK and around the world. Across more than 90 concerts - and a similar number of free events designed to extend and further enrich the audience’s Proms experience - the festival aims to offer a summer of music that allows for the most diverse and exciting musical journeys.

More than 120 years since it was founded, the driving factor in building a festival of this scale is to offer exceptional music-making at the lowest possible prices, continuing founder-conductor Henry Wood’s original ambition of bringing the best classical music to the widest possible audience. With every Prom broadcast live on BBC Radio 3 and many televised on the BBC, the Proms reaches far and beyond the Royal Albert Hall.

The 2017 BBC Proms runs from Friday 14 July - Saturday 9 September.

Welsh language version

Mica Paris i dalu teyrnged Ella Fitzgerald yn Proms yn y Parc y BBC

Bydd Mica Paris yn perfformio datganiadau o glasuron Ella Fitzgerald yn ‘Proms yn y Parc y BBC’ ddydd Sadwrn, Medi 9 ym Mharc Singleton yn Abertawe. Bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC hefyd yn perfformio amrywiaeth o ganeuon adnabyddus o fyd y ffilm a’r teledu ynghyd â chaneuon Cymreig traddodiadol. Daw'r newyddion hwn yn sgil cyhoeddi rhestr lawn o berfformwyr y noson ac wrth i'r tocynnau fynd ar werth.

Dywedodd Mica Paris: “Dwi'n edrych ymlaen yn arw at chwarae yn ‘Proms yn y Parc y BBC’ mis Medi - mae’n mynd i fod yn ddiwrnod gwych a fe fyddwn i wrth fy modd yn eich gweld chi i gyd yno!”

Bydd Rebecca Trehearn, y soprano o Gymru a seren y 'West End' ac enillydd diweddar Gwobr Olivier yn perfformio ar y llwyfan, ynghyd â Jess Gillan - y sacsoffonydd a enillodd deitl Cerddor Ifanc y BBC yn 2016.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: “Dwi’n edrych ymlaen at groesawu Mica Paris a’r doniau cerddorol rhagorol eraill i Abertawe ar gyfer Proms yn y Parc eleni.

“Mae amrywiaeth y perfformwyr eleni yn argoeli’n dda ar gyfer noson wefreiddiol arall o gerddoriaeth a chaneuon a dwi’n gwybod y bydd cynhesrwydd a brwdfrydedd y gynulleidfa yn Abertawe yn ei wneud yn ddigwyddiad cofiadwy”.

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn cynnal y Proms yn y Parc eto eleni am ei fod bob amser yn ddigwyddiad gwych gyda naws anhygoel. Bydd perfformiad arbennig gan Mica Paris yn siŵr o ddenu torf fawr o bob cwr o Gymru”.

Gwahoddir pawb sy'n hoff o gerddoriaeth i ddod â'u picnics a'u baneri gyda nhw i ddathlu'r cyngerdd awyr agored hwn. Mae Proms yn y Parc yn rhan o ddigwyddiad ysblennydd blynyddol a blaenllaw dau fis o greu cerddoriaeth yn Proms y BBC, fel mae dathliadau byd-enwog Noson Olaf yn llifo allan o Neuadd Albert yn Llundain gyda miloedd o bobl yn dod at ei gilydd mewn ledled y DU i fod yn rhan o hud y Noson Olaf.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad a gefnogir gan Gyngor Abertawe ac a gynhelir ddydd Sadwrn, 9 Medi, ar gael yn awr.
Mae tocynnau ymlaen llaw i oedolion yn £12.50 yn ystod mis Gorffennaf a bydd y pris yn codi i £16 ar 1 Awst tan y diwrnod cyn y digwyddiad a £18 ar y diwrnod. Caiff plant dan 12 oed sydd gydag oedolyn fynediad am ddim.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i bbc.co.uk/promsinthepark

Nodiadau i Olygyddion

Proms y BBC
Fel gŵyl gerddoriaeth glasurol fwyaf y byd, mae Proms y BBC yn cynnig wyth wythnos o gerddoriaeth o’r radd flaenaf gan amryw eang o’r cerddorfeydd, arweinwyr ac unawdwyr blaenaf o’r DU ac o amgylch y byd. Ar draws dros 90 o gyngherddau - a nifer tebyg o ddigwyddiadau am ddim a gynlluniwyd i ymestyn a chyfoethogi ymhellach profiad Proms y gynulleidfa - mae’r ŵyl yn anelu i gynnig haf o gerddoriaeth sy’n galluogi’r profiadau cerddorol mwyaf amrywiol a chyffrous.

Dros 120 o flynyddoedd ers ei sefydlu, y ffactor sy’n ysgogi adeiladu gŵyl ar y raddfa hon yw cynnig perfformiadau cerddorol am y prisiau isaf posibl, gan barhau uchelgais gwreiddiol yr arweinydd a’r sylfaenydd Henry Wood i ddod â'r gerddoriaeth glasurol orau i’r gynulleidfa ehangaf posibl. Gyda phob Prom yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio 3 a llawer ar deledu’r BBC, mae’r Proms yn cyrraedd ymhell tu hwnt i Neuadd Albert.

Dyddiadau Proms y BBC yn 2017 yw Dydd Gwener Gorffennaf 14 – Dydd Sadwrn Medi 9

July 28, 2017 11:52am ET by BBC Radio 2  

, , , , ,

  Shortlink to this content: http://bit.ly/2veApLI

SHARE THIS

Latest Press Releases